ALERGEDDAU A DEIETAU ARBENNIG

Rydym yn ffodus o gael cefnogaeth Dietegydd arbenigol sy’n gweithio gyda ni gan ganolbwyntio ar alergeddau ac anoddefiadau bwyd. Mae gweithdrefnau llym ar waith i sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd sy’n addas iddyn nhw.

Dietitian sitting with parent and child in office
The 14 allergens
ALERGENAU

Caiff pob un o’n prydau eu dadansoddi ar gyfer y 14 prif alergen mewn bwyd. Mae’r holl wybodaeth ar gael i staff a rhieni. Pan fydd plentyn yn dod i’r ysgol gydag alergedd neu deiet arbennig, mae rheolwyr y Gwasanaeth Arlwyo yn hapus i gwrdd â staff a rhieni ar ôl cael tystiolaeth feddygol i sicrhau bod yr holl gamau’n cael eu dilyn.

Rydym yn canolbwyntio ar gyfathrebu clir ac agored fel bod pawb yn y gegin, hyd yn oed staff dros dro, yn gwybod pa blentyn sydd â deiet arbennig.

DEIETAU ARBENNIG

Yn ogystal â’r 14 prif alergen, gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ddeietau meddygol, diwylliannol a moesegol. Unwaith eto, mae gennym weithdrefnau i sicrhau na thynnir sylw at eich plentyn ac nad yw’n cael bwyd sy’n rhy wahanol.

Special Diets
Er mwyn galluogi i’ch cogydd gefnogi eich plentyn, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol o ofynion deietegol y plentyn.