PWY ALL GAEL PRYDAU YSGOL AM DDIM?

Mae pob pryd am ddim yn ysgolion cynradd Sir Ddinbych waeth beth fo’r amgylchiadau.

Sylwch fod angen i rieni a gofalwyr sy’n cael budd-daliadau wneud cais am eu hawl i brydau ysgol am ddim o hyd gan fod hyn hefyd yn rhoi mynediad at hyd at £300 o grant hanfodion ysgol i ddisgyblion.

Drwy wneud cais am brydau ysgol am ddim, rydych hefyd yn galluogi eich ysgol i gael cyllid ychwanegol i gefnogi eich plentyn yn yr ysgol.

Yn yr ysgol gynradd, bob dydd bydd eich plentyn yn cael pryd 2 gwrs sy’n llawn cynhwysion ffres heb unrhyw gost i chi. Felly mae’r fath beth â chinio am ddim!

Denbighshire Free School Meals
#freemealsthatmatter
Free School Meals Seconday
GALLAI EICH PLANT HŶN FOD Â HAWL HEFYD

Gallai disgyblion yn yr ysgol uwchradd fod â hawl i bryd ysgol am ddim os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych incwm aelwyd sy’n is na’r trothwy. Cysylltwch ag Adran Budd-daliadau Sir Ddinbych i wirio a ydych yn gymwys.

Edrychwch ar y botwm isod i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais.