EIN BWYD

Mae ein bwydlenni yn llawn seigiau sy’n cynnwys cynnyrch ffres, tymhorol, lleol a Chymreig lle bynnag bo’n bosibl. Mae creu prydau blasus y bydd plant yn eu bwyta a’u mwynhau yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn ceisio cefnogi busnesau lleol a’r gymuned wrth wneud hyn.

Mae ein hethos o ddefnyddio cynnyrch lleol yn golygu bod cynhwysion yn cyrraedd ein ceginau mor ffres ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd wrth i ni geisio lleihau milltiroedd bwyd a faint o becynnu ydym ni’n ei ddefnyddio. Trwy ddarparu bwyd y mae disgyblion yn ei fwynhau, mae’n golygu mai dim ond ychydig o wastraff bwyd sydd.

Rydym yn adolygu ein bwydlenni i adlewyrchu newidiadau tymhorol ac i roi dewisiadau newydd i’n cwsmeriaid.

serving hot plates in a school dining hall showing varies food items including gravy, mashed potatoes, carrots
FFEITHIAU BWYD
  • Mae gan ein cig warant fferm Tractor Coch

  • Rydym yn defnyddio Cig Eidion Cymreig

  • Wyau’r maes yn unig yr ydym yn eu defnyddio

  • Rydym yn defnyddio pysgod cynaliadwy sydd â thystysgrif y Cyngor Stiwardiaeth Forol

  • Rydym yn defnyddio cynnyrch Cymreig gan gyflenwyr fel Harlech Foods, Henllan Bakery, Edwards o Gonwy, Llaeth y Llan, Dragon Cheese.

  • Rydym yn darparu o leiaf 3 dogn o ffrwythau a llysiau mewn pryd o fwyd 2 gwrs arferol bob dydd.

A map showing the country of Wales and all the suppliers that Harlech use

We’re proud to source food and ingredients from Welsh suppliers wherever possible, supporting local producers and businesses across Wales.

Working with Harlech Foodservice and their network of Welsh suppliers helps us bring quality, locally sourced produce to school meals across Denbighshire.

Supporting Welsh suppliers means supporting Welsh jobs, businesses and communities.