ALERGEDDAU A DEIETAU ARBENNIG
Rydym yn ffodus o gael cefnogaeth Dietegydd arbenigol sy’n gweithio gyda ni gan ganolbwyntio ar alergeddau ac anoddefiadau bwyd. Mae gweithdrefnau llym ar waith i sicrhau bod pob plentyn yn cael pryd sy’n addas iddyn nhw.


ALERGENAU
Caiff pob un o’n prydau eu dadansoddi ar gyfer y 14 prif alergen mewn bwyd. Mae’r holl wybodaeth ar gael i staff a rhieni. Pan fydd plentyn yn dod i’r ysgol gydag alergedd neu deiet arbennig, mae rheolwyr y Gwasanaeth Arlwyo yn hapus i gwrdd â staff a rhieni ar ôl cael tystiolaeth feddygol i sicrhau bod yr holl gamau’n cael eu dilyn.
Rydym yn canolbwyntio ar gyfathrebu clir ac agored fel bod pawb yn y gegin, hyd yn oed staff dros dro, yn gwybod pa blentyn sydd â deiet arbennig.
DEIETAU ARBENNIG
Yn ogystal â’r 14 prif alergen, gallwn ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o ddeietau meddygol, diwylliannol a moesegol. Unwaith eto, mae gennym weithdrefnau i sicrhau na thynnir sylw at eich plentyn ac nad yw’n cael bwyd sy’n rhy wahanol.

