DECHREUWYR NEWYDD

Rydym yn edrych ymlaen at helpu eich plentyn i ddechrau ar ei daith prydau ysgol. Mae ein staff yn weithwyr proffesiynol ac yn deall arferion bwyta hyd yn oed y disgyblion ieuengaf.

Mae ein bwydlenni’n cynnig dewis i ddod o hyd i’r bwydydd maen nhw’n eu mwynhau.

Mae gan bob plentyn ysgol gynradd hawl i bryd ysgol am ddim, gweler yr adran Prydau Ysgol am Ddim am ragor o wybodaeth.

Mae gennym amrywiaeth eang o fwydlenni sy’n addas i blant sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i helpu plant i dyfu a ffynnu. Mae ein tîm arlwyo bob amser wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.

Darperir ar gyfer deietau arbennig ac alergeddau, dewch o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar y wefan hon.