SYMUD I FYNY

Wrth i’ch plentyn symud i’r Ysgol Uwchradd, bydd ganddo’r rhyddid i wneud ei ddewis ei hun amser cinio.

Mae rhywbeth at ddant a chyllideb pawb, o brif brydau dau gwrs i fwyd parod stryd.

Bydd diwrnodau blasu’n rhoi cyfle i’ch plentyn weld sut mae ystafell fwyta ysgol uwchradd yn gweithio a’i baratoi i wneud dewisiadau iach ei hun.

Os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r cais gydag Adran Budd-daliadau Sir Ddinbych. Ar ôl cael cais llwyddiannus am Brydau Ysgol am Ddim, bydd cyfrif prydau ysgol di-arian y disgybl yn cael ei ychwanegu ato’n awtomatig bob dydd gyda’i lwfans. Os hoffech chi, gallwch ychwanegu arian ychwanegol drwy gyfrif Parent Pay ysgol eich plentyn.

Mae ein holl ysgolion yn gweithredu gwasanaeth Di-arian, a bydd angen ychwanegu arian at gyfrif eich plentyn o gyfrif Parent Pay eich ysgol.

grab and go